SWS - Social Welsh & Sexy

05.09.2010

Amdanom Ni

Cefnogwyr

Colin Jackson

"This is wicked, this is Welsh and this is wild! I've never had such a good time, a chance to meet old friends make new ones and just chill out. It's nothing like I imagined! When's the next party?"

Er fod Colin Jackson yn noddwr ers 1999, dim ond yn ddiweddar mi llwyddo i fynychu cyfarfod gan ei fod mor brysur yn rhedeg o gwmpas y byd! Ef oedd ein gwestai yn ein parti yn L'Equipe yn West End Llundain ym mis Medi 2001 a ddenodd gymaint o sylw gan y wasg o'r teledu i'r tabloid!

Catherine Zeta Jones

Gofynnwyd i Catherine Zeta Jones i fod yn noddwr SWS wrth inni benderfynu lansio SWS NY (Efrog Newydd) ym 1999. Roeddem yn hynod o falch pan dderbyniodd y rôl, ac yn hyd yn oed balchach pan gusanodd hances boced er mwyn i ni fedru ymgorffori ei gwefusau i mewn i'n logo. Yn anffodus, mae rhywun wedi colli'r hances boced ers hynny - felly pwy bynnag sydd â'i gwefusau -'da ni eisiau nhw'n ôl!

Ym mis Tachwedd 2000 priododd Catherine gyda Michael Douglas ddiwrnod cyn penblwydd 1af SWS, felly'r diwrnod wedyn daeth ei theulu oll a'i ffrindiau i SWS. Dyna beth oedd penwythnos!!!!!

Siân Phillips

"Buaswn ond yn falch i roi fy enw i syniad mor syml ond clyfar sy'n dod a ni i gyd at ein gilydd."

Siân Phillips, un o actoresau mwyaf talentog a 'glamourous' Cymru oedd y person cyntaf erioed i dalu ei aelodaeth! Gofynnwyd iddi i fod yn noddwr cyntaf y gymdeithas a derbyniodd yn syth.

Bryn Terfel

"Buasai'n anrhydedd, Diolch"

Roedd Bryn Terfel yn falch iawn i dderbyn ei rôl fel noddwr SWS gan ei fod yn lysgennad gwych i Gymru. Mae wedi bod yn aelod ers y dechrau.

Rhoddodd syrpreis i bawb pan darrodd i mewn i Glwb y Groucho ar gyfer 5ed penblwydd SWS i ganu'r Anthem Genedlaethol. Roedd newydd orffen canu yn y Ty Opera Brenhinol, ac o fewn 10 munud roedd yn torri ein cacen ni!

Bonnie Tyler

Gofynnwyd i Bonnie Tyler, un o serenau pop mwyaf adnabyddus Cymru i fod yn noddwr ar noson cyn parti penblwydd 1af SWS yn Efrog Newydd. Nid yn unig y bu iddi gytuno a thorri'r gacen ond canodd hanner dwsin o ganeuon yn ogystal! Roedd aelodau Efrog Newydd wedi eu synnu! Nid oeddent yn credu eu lwc wrth iddynt ddawnsio i 'Holding out for a hero' a 'Lost in France'.

 
 
Cefnogwyr SWS